Fe fydd yn rhaid i Gaernarfon, sydd ar frig yr Huws Gray Alliance ar hyn o bryd, lwyddo yn eu hapêl os ydyn nhw eisiau chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru tymor nesaf
Port Talbot yw’r unig glwb yn Uwch Gynghrair Cymru sydd wedi methu â sicrhau trwydded ddomestig ar gyfer y tymor nesaf.

Roedd yr 11 o glybiau eraill yn y gynghrair yn llwyddiannus, gyda naw ohonynt hefyd yn llwyddo i sicrhau trwydded UEFA sydd yn golygu bod ganddynt hawl i chwarae yn Ewrop.

Mae’n rhaid cael y drwydded ddomestig er mwyn gallu chwarae yn yr Uwch Gynghrair, felly os na fydd Port Talbot yn llwyddo yn eu hapêl erbyn 21 Ebrill fe fyddan nhw’n disgyn o’r gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Mae clybiau eraill sydd yn brwydro am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, megis Caernarfon, Met Caerdydd a Phenybont, hefyd wedi methu â sicrhau trwydded ar y cynnig cyntaf.

Cyfle i apelio

CPD Tref Barri oedd yr unig un o Gynghrair Pêl-droed Cymru yn y de lwyddodd i gael trwydded ddomestig, a nhw sydd ar frig tabl y gynghrair honno i sicrhau dyrchafiad ar hyn o bryd.

Derwyddon Cefn a Thref Fflint oedd yr unig rai llwyddiannus o gynghrair Huws Gray Alliance y gogledd, gyda Chaernarfon, Porthmadog a Phrestatyn yn aflwyddiannus.

Mae gan y clybiau hynny nawr bythefnos i apelio’r penderfyniad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn ogystal â’r trwyddedau domestig, fe gafodd trwydded UEFA ei roi i bob un o glybiau Uwch Gynghrair Cymru oni bai am Bort Talbot, Rhyl a Hwlffordd – y tri thîm sydd ar waelod y tabl ar hyn o bryd.