Cymru'n cael budd o aros yn Ewrop, medd Bob Bright
Wrth i Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Bob Bright gamu o’r neilltu, mae e wedi amlinellu pam ddylai Cymru a Phrydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Wedi iddo adael ei swydd bresennol, fe fydd yn ymgymryd â’i rôl newydd fel cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fwrdd cynghori Cymru’n Gryfach yn Ewrop.
Dywedodd nad yw’r un rhan arall o’r Deyrnas Unedig yn cael mwy o fudd o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd na Chymru, a bod y dewis yn hawdd – rhwng pleidleisio ‘Ie’ i gael dyfodol mwy disglair, a ‘Na’ er mwyn neidio i’r tywyllwch.
Ychwanegodd fod Cymru’n derbyn tua £1.8 biliwn o gyllid gan Ewrop a bod yr arian hwn yn mynd tuag at greu’r math o gyfleoedd sydd eu hangen i wneud i economi Cymru lwyddo yn y tymor hir.
Dywedodd hefyd fod Casnewydd wedi gweld budd o arian Ewrop yn ddiweddar ac y byddai dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys Llanwern, yn fwy bregus fyth heb fod Cymru’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Budd o aros yn Ewrop
Dywedodd Bob Bright: “Dydy’r un rhan arall o’r Deyrnas Unedig wedi gweld mwy o fudd o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd na Chymru. Rydym yn derbyn llawer mwy nag ydym ni’n ei roi i mewn. Ni ddylai’r buddsoddiad hwn fod yn syniad haniaethol i ni, mae’n golygu swyddi, buddsoddi a’r posibilrwydd o dwf.
“Ond mae’r busnesau hyn hefyd angen yr hinsawdd cywir i dyfu, ffynnu a masnachu. Yr wyf yn argyhoeddedig fod hynny fel rhan o deulu Ewropeaidd.
“Mae’r newyddion hefyd wedi bod yn llawn penawdau manteisiol gan yr ymgyrch ‘Na’ sy’n honni y byddai ein gweithwyr dur yn Llanwern yn well eu byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Yn syml, nid yw hyn yn wir.
“Mae mwy na hanner ein allforion dur yn mynd i Ewrop. Pe baem yn gadael, byddem yn wynebu’r posibilrwydd o dariffau mewnforio a fyddai’n ein halltudio oddi wrth ein marchnadoedd mwyaf proffidiol.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda ‘Cymru’n Gryfach yn Ewrop’ i gyflwyno’r achos hwn. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Casnewydd yn ymuno â mi wrth wrthod addewidion gwag yr ymgyrch Na ac ymgyrchu dros ddyfodol cryfach, mwy diogel a saff fel rhan o’r UE.”