Cafodd y tri eu dal ar gyrion y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae tri o bobol wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 33 mis rhyngddyn nhw am daflu cyffuriau i mewn i garchar.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Paul Ford, 44 o Lanelli, Karl Griffiths, 33, a Christian Nicholas, 29, o Abertawe wedi cael eu dal yn taflu cyffuriau dros ffens i mewn i garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Ford ddedfryd o naw mis dan glo, tra bod Griffiths a Nicholas wedi’u carcharu am 12 mis yr un.
Ar Chwefror 28, cafodd Ford ei ddal gan yr heddlu ar ymyl y ffordd, a chafodd Griffiths a Nicholas eu harestio wrth iddyn nhw gerdded i ffwrdd o’r carchar.
Daeth yr heddlu o hyd i becyn ar dir y carchar oedd yn cynnwys cyffuriau, ac roedd bachyn ar y pecyn i helpu carcharorion i’w gasglu o’r tu fewn.
Pan gafodd Nicholas ei stopio gan yr heddlu, roedd ganddo fachyn tebyg yn sownd yn ei siwmper.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bod deddfwriaeth ar y gweill i sicrhau bod unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn euog o drosedd debyg yn y dyfodol yn cael ei garcharu am hyd at saith mlynedd.