Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn fu farw mewn damwain ffordd ger Caergybi fore Mawrth.

Roedd Robert Idris Llewellyn yn 70 oed ac yn dod o ardal Rhoscolyn.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei bod hi’n “ergyd ofnadwy” a’i fod yn “gymeriad go iawn, yn ddewr, yn ddoniol ac yn ’styfnig hefyd.”

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 7.40yb i ffordd y B5109 wedi i fan Ford Transit arian a beic fod mewn gwrthdrawiad wrth groesffordd Trefor ger Caergybi.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i achos y ddamwain, a dylai unrhyw dystion gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101, neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555111.