Raymond Burrell (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn, 38 oed, wedi ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe heddiw am achosi niwed corfforol difrifol a bwriadol i ddyn arall yng Nghaerdydd y llynedd.
Yn ôl y Ditectif Arolygydd, Ian Bourne, gadawyd Matthew Sheehan, 34 oed, mewn cyflwr difrifol ar ôl ymosodiad gan Raymond Anthony Burrell.
Esboniodd y ditectif fod yr ymosodiad “hollol ddychrynllyd, creulon ac ailadroddus” wedi digwydd yng nghartref Matthew Sheehan yn Adamsdown, Caerdydd, 1 Medi 2015.
‘Ymosodiad direswm’
“Mae’r ddedfryd a gymeradwywyd heddiw yn dangos difrifoldeb yr ymosodiad direswm ar Matthew a’r difaterwch llwyr oedd gan Burrell i unrhyw un heblaw amdano’i hun,” meddai Ian Bourne.
Ychwanegodd ei fod yn diolch i aelodau’r cyhoedd a’r gymuned leol am ddarparu tystiolaeth hollbwysig i’r ymchwiliad.
“Fe wnaeth gweithredoedd tystion, swyddogion yr heddlu, parafeddygon a staff meddygol chwarae rhan hollbwysig yn achub bywyd Matthew.”
‘Anodd deall’
Wedi’r gwrandawiad, fe wnaeth teulu Matthew Sheehan ryddhau datganiad yn dweud:
“Ar y 1af o Fedi 2015, cafodd ein bywydau ni a Matthew eu troi ben eu gwared pan wnaeth Raymond Burrell ymosod ar ein mab.
“Mae’n anodd deall sut y gall rhywun achosi anafiadau mor ddychrynllyd i berson arall ac, i berson bregus nad sy’n medru amddiffyn ei hun, ac mae’n anos delio ag e pan mae’n digwydd i’ch teulu eich hun.
“Gallwn nawr ganolbwyntio ar fod gyda Matthew a, phan fo’n bosib, helpu gyda’i ofal.”