Llun o un o'r dynion y mae Heddlu De Cymru yn awyddus i siarad ag o (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru’n awyddus i siarad â dau ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad yng Nghaerdydd ddiwedd y llynedd.
Fe ddigwyddodd ym mar Pulse ar Ffordd Churchill ar Ragfyr 12, 2015.
Yn ystod y digwyddiad, fe gafodd gên y dioddefwr ei thorri, a bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth.