Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn cyfarfod â Phrif Weinidog Prydain, David Cameron ddydd Mawrth i drafod argyfwng y diwydiant dur.
Byddan nhw’n trafod unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Prydain eu cymryd i gefnogi’r gweithwyr dur yn sgil dyfodol aneglur safle Tata Steel ym Mhort Talbot.
Daeth cadarnhad eisoes fod y perchnogion o India yn bwriadu gwerthu’r cwmni yn y DU, sy’n golygu bod miloedd o swyddi yn y fantol.
Roedd adroddiadau’n gynharach ddydd Sul fod prynwr ar gyfer y safle wedi cael ei ddarganfod, a bod trafodaethau’n dechrau.
Fe fydd aelodau’r Cynulliad yn dod ynghyd ddydd Llun i drafod y sefyllfa.
Mae Carwyn Jones wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnig cymorth tebyg i’r gweithwyr dur ag a gafodd ei roi i’r bancwyr yn ystod yr argyfwng economaidd.
Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid wedi dweud yn dilyn taith i Bort Talbot nad gwladoli fyddai’r ateb.