Cafodd dyn 81 oed ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Pen-y-bont ar Ogwr brynhawn dydd Sadwrn.

Tarodd dau gar yn erbyn ei gilydd ar yr A4064 rhwng Llangeinwyr a Brynmenyn am 3.05yp.

Cafodd dyn 75 oed ei gludo i’r ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr ag anafiadau i’w ben ond fe gafodd ei ryddhau’n ddiweddarach.

Cafodd gyrrwr 24 oed un o’r ceir ei gludo i’r ysbyty cyn cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion.