Mae tri o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad nwy amheus yng Nghasnewydd.
Cafodd un person anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad toc cyn 7.30 nos Sadwrn.
Cafodd nifer o dai eu difrodi.
Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.