Fe fu Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf
Fe fydd cwmnïau yn y sector cyhoeddus yn cael eu hannog i brynu dur o wledydd Prydain mewn ymgais i achub y diwydiant.

Dywed Llywodraeth Prydain fod rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n prynu dur ystyried yr effaith ariannol a chymdeithasol ar wledydd Prydain cyn prynu o dramor.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod prynwr yn barod i gamu i mewn i achub gweithfeydd dur Port Talbot ar ôl i gwmni Tata o India benderfynu gwerthu’r safle, gan beryglu miloedd o swyddi.

Sanjeev Gupta

Yn y Sunday Telegraph, daeth cadarnad gan Sanjeev Gupta, sylfaenydd Liberty House, fod trafodaethau ar y gweill rhyngddo fe a Tata a’i fod yn barod i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain.

Ond ychwanegodd nad oedd yn barod i brynu’r cwmni cyfan.

Yn ôl mesurau i hybu dur o wledydd Prydain, fe fydd gofyn i gontractwyr sy’n gweithio ar ran y sector cyhoeddus gyhoeddi tendr fel bod modd i gwmnïau o wledydd Prydain gystadlu ar gyfer y gwaith.

Mae China eisoes yn cael ei beio am beryglu dyfodol gwaith dur Port Talbot oherwydd y ffordd y mae’n ‘dympio’ miliynau o dunelli o ddur rhad ar y farchnad ryngwladol.

Cystadleuaeth deg

Yn dilyn ei ymweliad â Phort Talbot yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid: “Drwy newid y rheolau caffael ar y prosiectau is-adeiledd hyn, rydym yn cefnogi dyfodol dur y DU – gan greu cyfleoedd sylweddol i gyflenwyr o’r DU a’u galluogi i gystadlu’n fwy effeithiol gyda chwmnïau rhyngwladol.”

Mae’r cyhoeddiad gan Javid wedi cael ei groesawu gan undeb Community, a ddywedodd ei fod yn “gam bach yn y cyfeiriad cywir”, ond fe ddywedodd y dylid fod wedi sicrhau bod y camau yn eu lle cyn hyn.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn dod at ei gilydd unwaith eto’r wythnos hon, er gwaethaf gwyliau’r Pasg, i drafod yr argyfwng yng Nghymru.