Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddyn a dynes gael eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Ngwynedd neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw am 8.24 neithiwr ar ôl derbyn adroddiadau am ddamwain ar briffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli gerllaw cyffordd Llandwrog.

Roedd gyrrwr a theithiwr un o’r ceir, Nissan Micra glas, eisoes wedi marw. Aed â gyrrwr y car arall, Vauxhall Vectra arian, i’r ysbyty’n dioddef o anafiadau difrifol a chafodd teithiwr y car hwnnw fân anafiadau.

Fe fu’r A499 wedi cau am oriau wrth i’r gwasanaethau brys ymchwilio i’r gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a all fod â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod U046650, neu’n uniongyrchol dros y we.