Byddai cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn golygu na fyddai’r cynllun i wella’r M4 yn mynd yn ei flaen, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Mae’r blaid wedi dweud ei bod yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda’r cynllun o fewn 12 mis ar ôl yr etholiadau petai’n dod i rym, wrth i gwmnïau cludiant a busnesau lleol roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r sefyllfa.
Dywed y blaid mai gwella isadeiledd er mwyn creu rhagor o swyddi yw un o’i phrif flaenoriaethau wrth iddyn nhw ymgyrchu ar drothwy’r etholiadau.
Ond byddan nhw hefyd yn pwysleisio bod y cynllun yn ardal Casnewydd mewn perygl o dan arweiniad Llafur a Phlaid Cymru.
Amheuon am y cynllun
Mae amheuon eisoes wedi codi ynghylch dyfodol y cynllun yn ardal Casnewydd ar ôl i Lywodraeth Cymru gyfaddef y gallai gostio mwy nag £1 biliwn, a hynny’n dilyn addewid blaenorol y byddai’n costio llawer iawn llai na hynny.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n rhaid i’r Blaid Lafur roi’r gorau i’w cynllun i adeiladu rhan newydd o’r M4 cyn y byddai ei phlaid yn ystyried cydweithio â nhw yn y Cynulliad wedi’r etholiad.
Dywedodd Andrew RT Davies: “Mae’r cenedlaetholwyr eisoes wedi mynegi ei gwrthwynebiad, ac mae’n eithaf amlwg y bydd Leanne Wood yn cefnogi Llafur unwaith eto mewn ymgais i gael ychydig o rym.
“Mae’r oedi dyddiol o gwmpas y rhan honno o’r M4 ger Casnewydd wedi bod yn rhwystr i dwf economaidd ers cryn amser a rhaid gwneud cynnydd.”
Cafodd sylwadau Andrew RT Davies eu hategu gan William Graham AC, wrth iddo rybuddio bod diffyg uchelgais Llywodraeth Lafur Cymru’n rhwystr i dwf economaidd y wlad.
“Dylid fod wedi codi’r ffordd ychwanegol bymtheg mlynedd yn ôl. Ond fel yn achos cynifer o brosiectau trafnidiaeth eraill o dan Lafur, fe aeth o’r neilltu.”
Bydd yr M4 newydd yn cael ei drafod brynhawn dydd Iau pan fydd Andrew RT Davies a William Graham yn ymweld â chwmni Hicks Logistics yng Nghil-y-Coed.