Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod galw ar y Senedd i ddychwelyd o wyliau’r Pasg yn gynnar i drafod yr argyfwng dur.
Ond fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cynnal cyfarfod gyda gweinidogion bore fory, yn ôl llefarydd ar ran Stryd Downing.
Roedd pwysau ar Cameron gan arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn a miloedd o bobol drwy ddeiseb i gynnal cyfarfod arbennig er gwaetha’r ffaith fod y Senedd wedi dod i ben dros y Pasg.
Mae Corbyn yntau wedi teithio i Bort Talbot ar ôl dychwelyd yn gynnar o’i wyliau.
Dywedodd Corbyn yn ei lythyr i Cameron fod y cyhoeddiad gan Tata yn rhoi “miloedd o swyddi” a “diwydiant strategol y DU gyfan” mewn perygl.
“Fe fydd gweithwyr dur a’u teuluoedd yn gofidio’n arw am yr ansicrwydd,” meddai. “Mae’r Llywodraeth wedi drysu ynghylch pa gamau i’w cymryd.
“Rhaid i weinidogion weithredu nawr er mwyn gwarchod y diwydiant dur, sydd wrth galon gweithgynhyrchu ym Mhrydain ac yn hanfodol i’w ddyfodol.”
Cefndir
Daeth cadarnhad nos Fawrth fod cwmni dur Tata Steel wedi penderfynu yn ystod cyfarfod yn India eu bod nhw am werthu eu holl asedau Prydeinig, gan gynnwys eu safle ym Mhort Talbot, gan beryglu miloedd o swyddi.
Mae’r Cynulliad ym Mae Caerdydd eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw’n dychwelyd ddydd Llun i drafod dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, gan gynnwys safle Tata ym Mhort Talbot, sy’n cyflogi 3,000 o weithwyr.
‘Dim bwriad’ i ddod ynghyd yn San Steffan
Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing: “Bydd gweinidogion yn parhau i gynnal cyfarfodydd briffio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gynrychiolwyr eraill am y sefyllfa, ond does gyda ni ddim cynlluniau i alw’r Senedd yn ôl.
“Ein ffocws yw dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy yn y tymor hir i wneud dur ym Mhort Talbot ac ar draws y DU.”
Eisoes, daeth cadarnhad bod Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid yn dychwelyd o’i wyliau yn Awstralia yn sgil yr argyfwng.
‘Cyfnod anodd’
Mewn datganiad, dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: “Mae’n gyfnod anodd ar y gweithwyr ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru.
“Dros gyfnod yr adolygiad, rydym yn ymrwymo i weithio gyda Tata a’r Undebau Llafur i sicrhau dyfodol tymor hir i’r diwydiant dur yng Nghymru.
“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried pob opsiwn ymarferol i gadw diwydiant dur Prydeinig cryf yn ganolog i’n sylfaen gweithgynhyrchu.
“Rhaid i ni gyd-dynnu gyda’n gilydd i gael ateb cynaliadwy i sicrhau presenoldeb tymor hir y diwydiant dur ym Mhort Talbot a Chymru, fel rhan o sylfaen gweithgynhyrchu cryf i’r DU.”
Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru’n galw unwaith eto ar Lywodraeth Prydain i droi at Ewrop am gymorth ychwanegol.
Fe fydd tasglu Tata yn dod ynghyd ar Ebrill 4 i drafod y ffordd ymlaen