Mae mwy o staff rheng flaen yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru heddiw nag erioed o’r blaen, yn ôl ffigurau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2011, mae 2,122 yn rhagor o staff amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru.

Bellach mae cyfanswm o 73,958 o feddygon, parafeddygon, nyrsys a staff meddygol a deintyddol eraill  bellach yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Er hyn, mae nifer y rheolwyr ac uwch-reolwyr ar draws byrddau iechyd Cymru wedi gostwng i 1,898, i lawr 191 ers 2011.

Ers 2011 bu cynnydd o 130 yn nifer y meddygon ymgynghorol, 704 yn nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd, a 500 yn nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, a 110 o gynorthwywyr gofal iechyd, staff gwasanaeth ambiwlans a staff cymorth ychwanegol.

Beirniadu lefelau staffio “beryglus o isel”

Wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod lefelau staffio yn adrannau brys ysbytai Cymru ar lefel “beryglus o isel”.

Roedd hyn ar sail cyngor y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, nad yw’n cael ei ddilyn gan Lywodraeth Cymru, gan fod “anghenion pob ysbyty yn amrywio.”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi wfftio beirniadaeth y Ceidwadwyr, gan ddweud bod y ffigurau’n “gamarweiniol” am nad ydyn nhw’n ystyried meddygon cyffredin a staff sydd ddim ar lefel ymgynghori.

Buddsoddi er gwaethaf toriadau

“Mae ein hymrwymiad i’r Gwasanaeth Iechyd yn gadarn,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wrth groesawu’r ffigurau diweddaraf.

“Mae pawb sy’n gweithio yn y GIG – p’un a ydynt mewn ysbytai neu mewn cymunedau lleol – yn ganolog i’r gwasanaeth. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd o safon i bobl ledled Cymru.

“Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r holl staff, undebau llafur a chyrff proffesiynol, i ddiogelu’r gwasanaethau hanfodol hyn a buddsoddi ynddynt  er gwaethaf y toriadau sylweddol  i’n cyllidebau gan Lywodraeth y DU.”