Mae ffigurau newydd yn dangos bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymateb i bron i hanner y galwadau lle’r oedd bywyd rhywun yn y fantol o fewn chwe munud ym mis Chwefror.

Roedd 65% o’r galwadau difrifol hyn wedi cael ymateb o fewn wyth munud a 71% o fewn naw munud.

Mae’r gwasanaeth wedi cyrraedd ei dargedau bob mis ers i Lywodraeth Cymru eu newid ym mis Hydref y llynedd a ddenodd cryn feirniadaeth gan y gwrthbleidiau.

Felly, hyd at fis Hydref nesaf, mae’r targed i gyrraedd o fewn wyth munud wedi cael ei ddileu ar gyfer pob galwad ond y rhai ‘coch’ – y rhai mwya’ difrifol.

Pwysau cynyddol

Dywedodd y llywodraeth mai dyma oedd un o’r ddau mis prysuraf ers dechrau cofnodion yn 2006, gyda 1,295 o alwadau ar gyfartaledd yn cael eu gwneud pob dydd.

1,801 oedd cyfanswm y galwadau ‘coch’, sef 4.8% o’r galwadau i gyd a 62 y dydd ar gyfartaledd.

Mae’r galw am wasanaethau gofal iechyd argyfwng a brys wedi bod yn eithriadol o uchel ledled Cymru yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, gyda phwysau cynyddol yn wynebu’r gwasanaeth iechyd.

Perfformiad yn gostwng ers mis diwethaf

Mae perfformiad y gwasanaeth wedi gostwng rhywfaint ers mis Ionawr, gyda 3.8% yn llai o alwadau yn cael eu hateb o fewn yr amser targed.

Er gwaethaf y feirniadaeth i’r system dargedau newydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y cynllun yn gweithio.

“Ym mis Chwefror, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhagori unwaith eto ar y targed wyth munud ar gyfer ymateb i alwadau lle mae bywyd yn y fantol – a hynny er gwaethaf y galw eithriadol o uchel,” meddai.

“Mae’r model ymateb clinigol newydd yn darparu ymatebion cyflym i bobl sydd angen ymyrraeth ar unwaith gan ein criwiau ambiwlans brys.”