Mae’r ras i bleidiau’r Cynulliad wedi dechrau, wrth i’r cyfnod ymgyrchu cyn yr etholiadau yng Nghymru ddechrau’n swyddogol heddiw.
Pum wythnos i fory, bydd pobol ledled Cymru yn cael y cyfle i bleidleisio dros eu cynrychiolwyr ym Mae Caerdydd am y pum mlynedd nesaf.
Ac yn yr wythnosau hynny cyn 5 Mai, mae disgwyl cyhoeddi maniffestos y pleidiau, a fydd yn amlinellu beth yw eu bwriadau ym meysydd fel iechyd, addysg a busnes.
Mae system bleidleisio etholiadau’r Cynulliad yn wahanol i un San Steffan, ac felly mae’n anodd i unrhyw blaid cael mwyafrif clir.
Felly’r tebygolrwydd fydd mai clymblaid neu lywodraeth leiafrifol fydd wrth y llyw yng Nghymru ond mae darogan pwy fydd wrth y llyw yn gwestiwn arall.
Llafur – y ceffyl blaen o hyd?
Y blaid Lafur sydd wedi bod yn teyrnasu yng Nghymru ers 17 o flynyddoedd bellach, gyda chlymblaid â Phlaid Cymru rhwng 2007 a 2011.
Ar hyn o bryd, mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu mai Llafur sy’n parhau fel y ceffyl blaen, gyda Phlaid Cymru yn yr ail safle.
Roedd pôl piniwn mis Chwefror yn dangos bod Ukip, er gwaethaf momentwm y refferendwm ar Ewrop, wedi colli rhywfaint o dir yng Nghymru.
Doedd dim newid yn y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr Cymreig ac roedd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd wedi ennill rhywfaint, er roedd y ddwy blaid yn parhau i fod y tu ôl i’r pleidiau eraill.
Ond gyda phum wythnos i fynd, gall y tirlun hwnnw newid yn gyflym.
Gyda’r ras wedi dechrau, mae galw ar bobol i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio, gan fod yn rhaid gwneud hynny cyn 18 Ebrill.