Mae Plaid Cymru wedi addo cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn teirblwydd oed yng Nghymru os bydd yn ffurfio llywodraeth yn etholiadau’r Cynulliad.

Golyga hyn y bydd nifer yr oriau o addysg blynyddoedd cynnar sy’n seiliedig ar chwarae yn cael ei chynyddu o 10 awr i 30 awr yr wythnos.

Does dim manylion wedi dod gan y blaid ynglyn a sut fydd yn ariannu’r polisi hwn eto, ond yn ôl y blaid, bydd y cam yn gallu arbed dros £100 yr wythnos i deuluoedd ac yn ei gwneud hi’n haws i rieni fynd yn ôl i’r gwaith.

Bydd ymgeiswyr Cynulliad y blaid, Helen Mary Jones yn Llanelli a Simon Thomas yng Ngorllewin Caerfyrddin ym meithrinfa’r Gamfa Wen yng Nghaerfyrddin heddiw i dynnu sylw at eu haddewid.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc o’r crud i’r yrfa,” meddai Helen Mary Jones, sy’n llefarydd dros y blaid ar faterion plant a phobol ifanc.

“Mae meithrinfeydd fel yr un y byddwn ni’n ymweld â hi heddiw yn chwarae rhan hanfodol yn rhagolygon addysgol ein plant at y dyfodol, a’u datblygiad cymdeithasol.”

Gofal plant yn ‘costio mwy’ i rieni Cymru

Y blynyddoedd cynnar yw’r blynyddoedd drutaf fel arfer yn ôl arolwg diweddar, a dywedodd Helen Mary Jones fod gofal plant yn costio mwy i rieni Cymru na gweddill y DU.

Yn ôl Simon Thomas AC, llefarydd addysg y blaid, y plant o gefndiroedd difreintiedig fydd yn “elwa fwyaf” o’r cynllun.

“Fe gaiff hyn effaith gadarnhaol ar yr economi ac ar ein cymdeithas gyfan,” meddai.

“Gallai ein polisi ni helpu i godi teuluoedd allan o dlodi, galluogi rhieni i weithio a chael mwy o incwm i’w ddefnyddio, a chyfrannu hefyd at yr economi.”