Fe allai gymryd blynyddoedd i ddod i gytundeb boddhaol pe bai Prydain yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth San Steffan.

Yn ôl rheolau’r Undeb Ewropeaidd, byddai gan Brydain ddwy flynedd i adael pe bai’n pleidleisio o blaid gwneud hynny yn y refferendwm ar Fehefin 23.

Ond mae’r Arglwydd O’Donnell, cyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil, wedi rhybuddio bod y broses yn un “gymhleth iawn”.

‘Codi ofn’

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Yn amlwg ar ddiwedd dwy flynedd, mae’n rhaid ymestyn unrhyw beth nad ydyn ni wedi’i drafod drwy bleidlais unfrydol nad yw’n ein cynnwys ni, felly mae hynny’n codi rhywfaint o ofn.”

Ychwanegodd mai’r “broblem gyda bod yn drafodwr cadarn yn hyn oll yw, hyd yn oed os ydych chi’n drafodwr cadarn, fod yr holl gynseiliau’n awgrymu y bydd yn cymryd amser hir iawn”.

‘Proses gymhleth’

Wrth gyfeirio at hinsawdd wleidyddol Ewrop, ychwanegodd fod y drefn “yn gweithio yn y ffordd hollol anghywir i ni”.

“Gadewch i ni ddychmygu’r bobol ar ochr arall y bwrdd. Mae gyda chi wledydd fel Ffrainc a’r Almaen. Bydd y ddwy ohonyn nhw’n brwydro mewn etholiadau, mae ganddyn nhw bleidiau gwrth-Undeb Ewropeaidd y byddan nhw’n brwydro yn eu herbyn.

“Ydych chi’n credu y bydd y gwleidyddiaeth yn golygu y bydd y gwledydd hyn, yr arweinwyr hyn am i ni gael tipyn o lwyddiant wrth adael.

“Rwy’n ofni bod gwleidyddiaeth yn gweithio’r ffordd hollol anghywir i ni.

“Y  broblem yw ei bod hi’n broses gymhleth iawn, mae’n rhaid i ni drafod ein mynediad i’r farchnad sengl, rhaid i ni drafod ein perthynas yn y dyfodol gyda’r Undeb Ewropeaidd ac mae’n rhaid i ni drafod ein cytundebau masnach gyda’r gwledydd eraill, felly mae tipyn i’w wneud.”

Wfftio honiadau

Ond mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Dominic Raab wedi wfftio honiadau’r Arglwydd O’Donnell y gallai gymryd blynyddoedd i ddod i gytundeb.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Ro’n i, fel mae’n digwydd, yn gyfreithiwr rhyngwladol wrth fy hyfforddiant a galwedigaeth.

“Ro’n i’n arfer trafod cytundebau a gallaf ddweud wrthoch chi, pe baen ni’n pleidleisio dros adael, fe allen ni wneud hynny a dod i gytundeb wedi i ni weithredu Deddf 50.”