Mae dyn 30 oed wedi cael ei gyhuddo o ladrata yn dilyn digwyddiad mewn siop yn Aberystwyth ar ddydd Sul y Pasg.

Bydd Lee Michael Southan yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth heddiw, wedi’i gyhuddo o ladrata ac o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Digwyddodd y lladrad yn siop Premier Store ar Rodfa’r Gogledd yn y dref am tua 8:40yh. Dywedodd Heddlu Dyfed Powys na chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad ond cafodd swm o arian ei ddwyn.