Safle gwaith dur Tata, Port Talbot
Mae AS lleol wedi dweud ei fod yn “hyderus” y bydd prynwr newydd yn dod i achub safle dur Tata ym Mhort Talbot.
Dywedodd Stephen Kinnock AS dros Aberafan, a fu yn Mumbai yn ceisio darbwyllo’r cwmni dur i beidio â throi ei gefn ar y dref, fod y gwaith dur ym Mhort Talbot yn “gwbl hanfodol” i’r gymuned gyfan.
“Mae’n ymddangos nad oedd y cynllun adfer (y safle ym Mhort Talbot) yn dderbyniol i’r bwrdd (bwrdd rheoli Tata),” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Yn amlwg, yr opsiwn mwyaf cadarnhaol nawr yw dod o hyd i brynwr, ac mae hynny’n rhywbeth bydd yn symud yn gyflym iawn dwi’n meddwl.”
“Yn amlwg, mae’r gwaith dur ym Mhort Talbot yn chwarae rhan cwbl hanfodol i’r gymuned gyfan – does yr un teulu sydd ddim wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith dur, felly mae’n rhaid i ni frwydro i sicrhau bod Port Talbot yn parhau fel rhywle sy’n cynhyrchu dur.”
Yr effaith i’w deimlo ‘ledled y wlad’
Dywedodd y cynghorydd lleol, Dennis Keogh, wrth golwg360, y byddai’r effaith o gau’r safle dur yn cael effaith ledled y wlad.
“Dwi jyst yn gobeithio y bydd prynwyr, achos bydd yr effaith i’w deimlo’r ddwy ffordd i’r M4, credwch chi fi. Bydd yr effaith yn cyrraedd drws y Prif Weinidog,” meddai.
“Mae 4,000 o weithwyr yma, 15,000 o gontractwyr a chyflenwyr o amgylch y byd, felly byddai’r effaith yn anferth.”
“Rydym ni ym Mhort Talbot yn cynhyrchu’r dur gorau yn y byd, ond mae’r golled o ran y ffordd mae dur yn mynd ar hyn o bryd, doedd hynny ddim yn gynaliadwy.
“Mae gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU rôl i chwarae nawr,” meddai, gan ddweud ei fod yn cefnogi gwladoli’r diwydiant am gyfnod.
Llywodraethau’n ‘ystyried pob opsiwn’
Y bore ‘ma, fe addawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dyfodol i’r diwydiant dur.
“Mae’r gwaith nawr yn dechrau i geisio sicrhau rhywun i brynu’r safle,” meddai ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.
“O leiaf mae ‘na gyfle nawr i ystyried pob opsiwn ynglŷn â’r dyfodol.”
Mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu heddiw y byddai’n barod i ymyrryd yn uniongyrchol a phrynu’r safle ym Mhort Talbot.
Actor yn estyn ei gefnogaeth
Ar Twitter, cyhoeddodd yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, ei gefnogaeth i’r gwaith dur yn y dref, gan alw ar y llywodraethau i wneud popeth yn eu gallu i achub y safle.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wneud POPETH yn eu gallu nawr i ddangos cefnogaeth i weithwyr dur ym Mhort Talbot a ledled y DU,” meddai.
“Mae’r diwydiant dur wedi bod wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol ers cenedlaethau. Wedi rhoi cymaint i’n gwlad, mae’n amser nawr i anrhydeddu’r cyfraniad hwnnw.”