Mae pedwar o bobol wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar briffordd yr A470, rhwng Stryd yr Eglwys yn Rhaeadr a chylchfan Llangurig, toc wedi 11.45 ddydd Gwener.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw gan Heddlu Dyfed-Powys fod dau o bobol o’r naill gar a’r llall wedi marw.

Mae un arall yn dal i fod yn yr ysbyty, a does dim manylion ar hyn o bryd am ddifrifoldeb eu hanafiadau.