Tony Blair
Mae angen ymyrraeth filwrol er mwyn gwneud yn siwr fod y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn cael ei “gwasgu”, meddai Tony Blair.

Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, a chyn-Brif Weinidog Prydain, wedi disgrifio’r ymosodiadau terfysgol yn ninas Brwsel yr wythnos ddiwetha’ fel rhai “brawychus”, ac mae’n dweud y bydd ymosodiadau tebyg yn dal i ddigwydd nes y bydd eithafiaeth yn cael ei thaclo.

Mewn erthygl ym mhapur y Sunday Times, mae’n dweud bod angen deall yn iawn wreiddiau ffydd Islam, ynghyd ag “anaeddfedrwydd” cyfundrefnau gwleidyddol, a’r anghyfiawnder yn ymwneud â hawliau’r Palesteiniaid. Mae angen gwir ddealltwriaeth, meddai, cyn gallu mynd i’r afael â’r trais.

Yn ôl Tony Blair, mae angen “strategaeth newydd” er mwyn trechu eithafwyr – ac mae hynny, meddai, yn golygu mwy o gydweithio rhwng asiantaethau diogelach.

Ac, ar ben hyn i gyd, mae angen trefn effeithiol o brosesu ffoaduriaid.

“Fe allwn ddefnyddio cynghreiriaid yn y frwydr,” meddai, “ond mae angen yr offer iawn arnyn nhw. Maen nhw angen cefnogaeth filwrol ar y ddaear… ac fe ddylen ni roi’r gefnogaeth honno iddyn nhw. Mae’r Americanwyr yn gwneud hyn ar y foment – i rai graddau, a gyda pheth llwyddiant.

“Ond mae’n anhygoel ein bod ni wedi caniatau i Isis dyfu i fod mor fawr a dylanwadol mewn llefydd fel Libya, reit ar stepen drws Ewrop. Mae angen gwasgu Isis. Mae’n rhaid i ni wneud hynny.”