Mae undeb ffermwyr, NFU Cymru, yn atgoffa ffermwyr ucheldir yng Nghymru bod ganddyn nhw hyd at ddydd Iau nesa’ (31 Mawrth), cyn diwedd y cyfle i losgi grug a glaswellt.

“Pan weithredir yn gywir,  mae llosgi grug, porfa arw, rhedyn, eithin a llus yn fodd pwysig i reoli tir ond rhaid ei weithredu’n gytûn â ’r Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt (Cymru) 2008,” meddai Geraint Rowlands, Cadeirydd Sirol NFU Cymru Meirionnydd.

“Gall llosgi fod yn beryglus, felly gosodwyd canllawiau caeth i sicrhau ei fod yn cael ei weithredu’n gywir.”

Cyn dechrau y llosgi, mae’n rhaid:

• Rhybuddio tirfeddianwyr a deiliaid tir cyfagos

• Rhybuddio’r Gwasanaeth Tân ac Achub

•  (Ar gyfer tir dynodedig) gofyn am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNT) neu CADW ac mae angen i’r rheiny sy’n rhan o Glastir gysylltu â Thaliadau Gwledig Cymru

• Paratoi Cynllun Rheoli Llosgi

• Sicrhau bod gennych ddigon o bobl i reoli’r tân

Ar gyfer ardaloedd iseldir mae’r dyddiad cwblhau wedi mynd heibio’n barod ac os oes unrhyw un yn dymuno llosgi ar ôl y dyddiadau hyn rhaid gwneud cais am drwydded ar ei gyfer gan Llywodraeth Cymru.