Ar ddiwedd y daith - y cerddwyr gyda'r cerflun o William Maddocks
Drwy’r gwynt a’r glaw, fe fu cerddwyr yn croesi’r Cob ym Mhorthmadog ddoe, er mwyn dangos eu cefnogoaeth i ffoaduriaid “sydd wedi cael eu dal rhwng ofn a diogelwch”.

Fe ddechreuodd y criw o ochr Minffordd, a cherdded i Borthmadog. Roedden nhw wedi dewis dydd Sadwrn fel y diwrnod rhwng Gwener y Groglith (marwolaeth) a Sul y Pasg (bywyd newydd) – gan mai dyna sut y mae llawer o’r ffoaduriaid wedi disgrifio’u sefyllfa.

“Yn wyneb erchyllterau Paris, Ankara, Istanbul, Nigeria a Brwsel mae’n hanfodol ein bod yn sefyll gyda dioddefwyr terfysgaeth ac yn cofio bod y ffoaduriaid yn ffoi rhag yr un trais,” meddai Anna Jên ar ran y cerddwyr.