Mae Tesco wedi cael ei beirniadu am ddefnyddio enwau ffermydd ffug sy’n swnio fel rhai Prydeinig, ar amrywiaeth o gig a chynnyrch ffres.
Nid yw ffermydd Woodside, Willow a Boswell ond yn bodoli fel enwau ar becynnau porc, cyw iâr a chig eidion.
Ceir ffermydd Nightingale a Redmere ar lysiau a salad, Rosedene ar fwyar, afalau a gellyg a Ffermydd Suntrail ar amrywiaeth o ffrwythau sydd wedi’u mewnforio.
Mae’r enwau’n cael eu defnyddio ar saith brand gwahanol a gafodd eu lansio gan yr archfarchnad ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y labeli’n adlewyrchu’r brand ac nid y ffermydd a bod 100% o’r llysiau gwyrdd, tatws gwyn, cyw iâr a chig eidion o dan y brandio newydd yn dod o Brydain.
“Mae ein holl becynnau yn dangos yn glir o ba wlad y daw’r cynnyrch, ar ffrynt y pecyn, i helpu cwsmeriaid i wneud penderfyniad ar be hoffen nhw brynu,” meddai.
“Mae’r saith brand newydd hwn, sy’n egsclwsif i Tesco, yn cyfeirio at anghenion ein cwsmeriaid i brynu bwydydd ffres o ansawdd, ar brisiau cystadleuol iawn mewn un siop.”
Mae Aldi a Lidl yn defnyddio ffermydd ffug i farchnata a brandio cynnyrch hefyd.
Ymateb Undeb Amaethwyr Cymru
“Yn amlwg, dydy teclynnau marchnata fel hyn ddim yn gwneud unrhyw les i dryloywder yn y gadwyn fwyd,” meddai llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru wrth golwg360.
“Mae defnyddio enwau ffermydd ffug yn gamarweiniol a ddim yn atgyfnerthu hyder y cwsmer i brynu cig o le mae’n dod.
“Rydyn ni’n sylweddoli mai teclyn marchnata yw hyn, sy’n iawn yn ei hanfod ond yn dilyn y sgandal cig ceffyl a’r brotest yn Llundainddoe ar sefyllfa fregus y diwydiant amaethyddol, mae hwn yn rhywbeth sydd yn torri ar draws hynny yn hytrach nag atgyfnerthu’r gadwyn fwyd yng Nghymru.”