Ched Evans
Bydd dedfryd y pêl-droediwr Ched Evans am dreisio dynes 19 oed yn cael ei adolygu gan dri o farnwyr yn Llundain heddiw.

Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) sy’n archwilio camweinyddiad cyfiawnder posibl.

Cyhoeddodd y CCRC fis Hydref diwethaf fod tystiolaeth newydd wedi ymddangos yn yr achos, ar ôl iddyn nhw gynnal ymchwiliad deg mis.

Cafodd y cyn-bêl-droediwr i Gymru a Sheffield United, sy’n 27 oed, ei ddyfarnu’n euog yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Ebrill 2012 am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl. Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

‘Deunydd newydd’

Dywedodd Cadeirydd CCRC, Richard Foster: “Dyw penderfyniad y comisiwn ddim yn ddyfarniad am fod yn euog neu’n ddieuog yn achos Ched Evans, nid yw chwaith yn ddyfarniad ynglŷn â gonestrwydd neu uniondeb y dioddefwr nac unrhyw un arall sy’n rhan o’r achos.

“Ein rôl ni yw ystyried ceisiadau i weld, yn ein barn ni, a oes unrhyw sail y dylid gofyn i’r llys wrando ar apêl o’r newydd – dyna ein cyfrifoldeb statudol.

“Yn yr achos hwn, rydym wedi adnabod deunydd newydd na chafodd ei ystyried gan y rheithgor yn yr achos llys a byddai, yn ein barn ni, wedi cynorthwyo’r amddiffyniad.

“Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n briodol ac yn gywir i’r mater fynd o flaen y llys fel y gallan nhw benderfynu a fyddai’r wybodaeth newydd yn effeithio ar y rheithfarn yn yr achos hwn.”

Fe gollodd Ched Evans ei achos flaenorol yn y Llys Apêl yn 2012.