Heddlu gwrth-frawychiaeth yn Llundain
Mae heddluoedd ledled Prydain wedi cynyddu eu presenoldeb mewn sawl safle amlwg ledled y DU yn dilyn yr ymosodiadau ym Mrwsel bore ma.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i o leiaf 21 o bobol gael eu lladd yn dilyn cyfres o ffrwydradau ym maes awyr Brwsel ac ar y system Fetro yn agos i adeiladau’r Undeb Ewropeaidd.

Cadarnhaodd prif swyddog gwrth-frawychiaeth y Deyrnas Unedig, Mark Rowley, y bydd mwy o heddlu ar strydoedd y DU, rhag ofn bydd ymosodiad tebyg yn digwydd.

Dywedodd nad yw hyn o achos unrhyw “wybodaeth benodol” am ymosodiadau posibl.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, David Cameron, gadeirio cyfarfod brys Cobra y Llywodraeth yn dilyn yr ymosodiadau.