Geraint Talfan Davies
Wrth lansio ymgyrch ‘Cymru’n Gryfach yn Ewrop’, dywedodd Geraint Talfan Davies wrth Golwg360 na allai feddwl am “gam fwy hunan-niweidiol i Gymru na gadael yr Undeb Ewropeaidd.”
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghori mai dadl penna’r ymgyrch sy’n cael ei lansio heddiw yw’r manteision economaidd i Gymru, a bod y wlad wedi “manteisio mwy nag unrhyw ran arall o’r DU.”
“Os edrychwch chi ar y fantolen ariannol, mae Cymru yn cael dipyn mwy yn ôl na mae hi’n cyfrannu i Ewrop,” meddai Geraint Talfan Davies.
“Mae Ewrop wedi buddsoddi mewn trafnidiaeth, sgiliau, ymchwil a chreu swyddi yng Nghymru wrth gefnogi busnesau a denu cwmnïau newydd sydd am weithredu tu fewn iddi.”
‘Dadleuon cryf dros aros’
Cyfeiriodd at gynlluniau a datblygiadau addysg yng Nghymru sydd wedi manteisio ar fuddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd (UE) – “y campws cwbl newydd yn Abertawe, y ganolfan wyddonol yng Nghaerdydd a’r cyfleusterau Pontio ym Mangor.”
Cyfeiriodd hefyd at y sector amaethyddol gan ddweud bod undebau NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru “o blaid aros yn Ewrop oherwydd y farchnad o 500 miliwn o bobol.”
“Mae ’na ddadleuon cryf dros aros yn aelod brwdfrydig ac adeiladol o’r UE, ac mae effaith Ewrop i’w weld ymhob un cornel o Gymru.”
“Byddwn i’n dweud bod y mwyafrif llethol o’n Haelodau Cynulliad, seneddol a’n awdurdodau lleol ni o blaid aros yn Ewrop.”
Dywedodd felly mai her fwya’r ymgyrch yw cyflwyno’r daliadau hynny dros yr wythnosau nesaf.
“Byddai wedi bod yn dda i gadw Etholiadau’r Cynulliad a’r Refferendwm yn ddatgysylltiedig, a dw i’n gweld yr ymgyrch yn gweithredu mewn dwy ran – cyn yr etholiadau, ac ar ôl.”