Mae mwy na 700 o droseddwyr rhyw yn y DU wedi cael yr hawl i dynnu eu henwau oddi ar y gofrestr troseddwyr rhyw dros y pedair blynedd diwethaf, yn ôl adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Yn ôl ffigurau’r BBC, mae 55 o’r rheiny wedi llwyddo i dynnu eu manylion oddi ar y gofrestr rhyw yng Nghymru.
Mae’r adroddiadau hefyd yn amlygu amrywiaethau rhwng lluoedd heddlu ledled y wlad, gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cymeradwyo 90% o’r ceisiadau i dynnu enwau oddi ar y gofrestr.
Ar y llaw arall, wnaeth Heddlu Dyfed Powys ddim cymeradwyo’r un cais, Heddlu Gwent yn cymeradwyo 65%, a Heddlu De Cymru’n cymeradwyo 57%.
Daw hyn wedi dyfarniad gan y Goruchaf Lys yn 2010 i ganiatáu troseddwyr rhyw i wneud cais i beidio â bod ar y gofrestr os allant ‘brofi eu bod wedi newid’ ac ar ôl treulio 15 mlynedd yn y carchar.
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod mwy na hanner y ceisiadau yn y DU sydd wedi cael eu gwneud ers 2012, wedi bod yn llwyddiannus, meddai’r BBC. Mae’r troseddwyr yn cynnwys rhai oedd wedi eu dedfrydu am drais, llosgach ac o fod a lluniau anweddus o blant yn eu meddiant.
‘Monitro’n llym’
Dywedodd llefarydd ar ran elusen blant NSPCC Cymru bod y ffigurau’n “peri pryder mawr,” gan bwysleisio bod tri llu heddlu yng Nghymru wedi tynnu enwau troseddwyr rhyw oddi ar y gofrestr.
“Mae’n bwysig peidio ag anghofio fod pob troseddwr rhyw wedi cyflawni trosedd ofnadwy. Cyn y gall unrhyw un ddod oddi ar y gofrestr dylen nhw gyflawni asesiad risg – ac os ydyn nhw’n parhau’n fygythiad i blant – dylen nhw aros arni.
“Rydym hefyd yn credu y dylai’r rheiny sydd ar y rhestr gael eu monitro’n llym gan gynnwys ymweliadau cyson gan yr heddlu.”