Caryl Halsted
Mae cwmni cardiau cyfarch o’r Felinheli erbyn hyn yn gwerthu cardiau draw yn Hong Kong.
Lansiwyd cwmni Caryl Halstead yn sioe fasnach Top Drawer yn Llundain ym mis Ionawr gan ennyn diddordeb cwmni dosbarthu sydd am allforio a gwerthu ei chardiau mewn tua 40 siop yn Hong Kong.
Meddai Caryl Owen-Halstead, cyfarwyddwr a pherchennog y cwmni: “Fel y gallwch chi ddychmygu, mi ryda ni’n hynod o egseited i fod yn allforio mor gynnar a hyn yn hanes y cwmni newydd, ac yn gyffrous iawn i weld be ddaw yn y dyfodol.
“Mi ryda ni’n gwerthu cardiau i siopau ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac mi ryda ni hefyd yn siarad efo asiantau gwerthu drwy’r wlad i weithio efo ni i werthu’r cardiau mewn mwy o siopau.”
Mae cardiau cyfarch yn cael eu gwerthu mewn un allan o bob chwech siop, ac mae’r diwydiant yn y Deyrnas Unedig werth dros £1biliwn y flwyddyn.