Mae swyddog yn Heddlu’r Alban wedi’i anafu yn dilyn arestio dyn oedd yn cario dwy gyllell fawr ar y stryd.

Fe gafodd plismyn eu galw yn dilyn adroddiadau o derfysg yng nghanol Glasgow ben bore heddiw. Roedd llygad dystion yn dweud iddyn nhw weld dyn yn gwisgo balaclafa yn rhedeg yn ol a blaen ger Coleg St Aloysius, gan fygwth yn honedig ddyn loli-pop a gofalwr Ysgol Gelf Glasgow.

Meddai datganiad yr heddlu, fe gafodd y llu eu galw i Hill Street tua 8.30yb heddiw. Mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, a chafodd neb arall ei anafu, ond fe anafwyd un plismon yn ystod y digwyddiad.