Donald Trump
Mae heddlu Dinas Efrog Newydd a’r FBI yn ymchwilio wedi i lythyr bygythiol gael ei anfon i fflat Eric Trump yn Manhattan.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw fod yr amlen wedi’i hanfon i gartre’ mab Donald Trump, ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr, a’i fod yn cynnwys powdwr yn ogystal â llythyr hyll.

Chafodd neb eu hanafu, ac mae canlyniadau’r profion cynta’ i natur y powdwr gwyn yn awgrymu nad gwenwyn mohono.

Eric Trump yw’r ieuenga’ o ddau fab Donald Trump sy’n oedolion. Mae ganddo drydydd mab hefyd sy’n dal i fod yn yr ysgol gynradd. Mae Eric Trump wedi bod yn ymgyrchu ar ran ei dad.