Mae adnodd newydd sy’n gwneud i gyfrifiaduron ddeall Cymraeg gam yn nes, yn dilyn gwaith gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r Uned wedi bod yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron gan ei fod dechnoleg sy’n dod yn fwyfwy pwysig yn y byd modern.
Gall llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, ac mewn systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid,
Yn ôl Canolfan Bedwyr, os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.
Prototeip
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac S4C, ac mae’r datblygwyr wedi llwyddo i gynhyrchu prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o’r enw ‘Macsen’ yn gallu ateb cwestiynau llafar.
Eglurodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd y project: “Y bwriad yw rhoi mynediad rhad ac am ddim at yr adnoddau hyn drwy’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol, fel bod datblygwyr meddalwedd, cwmnïau mawr rhyngwladol a chwmnïau bach lleol, clybiau codio, hacwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu meddalwedd Cymraeg yn medru’u cymryd, eu datblygu ymhellach a’u cynnwys o fewn eu meddalwedd eu hunain.
“Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn yn dangos ac yn defnyddio’r adnoddau hyn yn Hacio’r Iaith yng Nghaerdydd, ar yr 16 Ebrill eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiad hwnnw.” Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu gosod ar wefan y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol http://techiaith.cymru/ , a storfeydd eraill ar gyfer datblygwyr.