Mae ffigurau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod pymtheg o bobl wedi rhoi eu horganau yn ystod dau fis cynta’r drefn newydd.

Ers mis Rhagfyr, mae system o optio allan ar gyfer rhoi organau wedi’i chyflwyno yng Nghymru.

Ers 2010, mae dros 150 o bobl yng Nghymru wedi marw wrth aros am drawsblaniad. Mae’r system newydd wedi’i llunio i’w gwneud yn haws i bobl roi organau.

Heddiw, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford annog teuluoedd yng Nghymru i barhau i siarad am eu penderfyniad rhoi organau.

Allan o’r 15 a roddodd eu horganau yn ystod mis Rhagfyr 2015 a mis Ionawr 2016, roedd chwech ohonynt wedi gwneud oherwydd y system newydd oherwydd nad oeddent wedi cofrestru penderfyniad i optio i mewn neu optio allan o roi eu horganau.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae’r newid i’r system rhoi organau wedi ei gwneud yn haws i bobl roi eu horganau ac mae wedi dod â’r cyfnod aros pryderus iawn i ben i nifer sy’n aros am drawsblaniad.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig i bawb yng Nghymru siarad â’u hanwyliaid am eu penderfyniad rhoi organau, un ai i optio mewn neu optio allan, ac i’w nodi ar y gofrestr rhoi organau.”