Mae pedwar o blant dynes o Gymru, a briododd dyn o dras Somalia “dros y ffôn”, wedi cael eu cymryd oddi wrthi, wrth i lys glywed am ei chynlluniau i deithio i’r Aifft tra’n feichiog.
Fe glywodd y Barnwr Carol Atkinson fod y ddynes, sydd bellach yn ei 20au, wedi dod i gysylltiad â’r dyn drwy wefan “singlemuslim.com” saith mlynedd yn ôl.
Fe wnaethon nhw briodi o fewn ychydig wythnosau, ond clywodd y llys nad oedd y pâr “ym mhresenoldeb ei gilydd” adeg y briodas, a’u bod wedi’u priodi gan Imam dros y ffôn, a bellach wedi gwahanu.
Cafodd dri o’r plant eu rhoi yng ngofal yr heddlu yn ystod haf 2015 pan ddaeth gweithwyr cymdeithasol i ddeall ei bod yn feichiog ac wedi archebu lle iddi hi a’i phlant ar awyren i’r Aifft heb ganiatâd y dyn.
Ar ôl clywed am bryderon iechyd meddwl, fe ddaeth y Barnwr i’r casgliad nad oedd y ddynes yn medru “cynnig gofal digon da i’r plant.”
Fe ddywedodd y dylai’r plant, sydd rhwng wyth mis oed a chwe blwydd oed, gael eu rhoi yng ngofal eu tad, sydd yn ei ugeiniau cynnar ac yn byw yn Llundain, ac wedi byw yn y DU ers ei fod yn blentyn.
Fe ychwanegodd y byddai gan y fam yr hawl i barhau mewn cysylltiad â nhw.
Esboniodd Carol Atkinson fod y fam yn “ddynes Brydeinig a gafodd ei magu yng Nghymru. Fe drodd yn Fwslim tua 2008.”