Arian elusen i gyn-filwyr wedi dod i ben
Fe fydd 29 o swyddi’n cael eu colli ym Mae Colwyn wedi i elusen i gyn-filwyr redeg allan o arian.

Derbyniodd Change Step gyllid gwerth bron i £1 miliwn dair blynedd yn ôl, ac roedd eu cais diweddaraf yn aflwyddiannus.

Ond mae’r elusen wedi mynnu na fydd yn dod i ben am y tro, ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud y gallai wneud cais o’r newydd dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Mae’r elusen wedi cefnogi mwy na 1,000 o gyn-filwyr ar faterion megis unigrwydd a iechyd meddwl ers ei sefydlu.