Mae Alan Jones yn gobeithio cael ail lawdriniaeth yn 12 oed pe bai'r gyntaf yn llwyddiannus
Bachgen 10 oed o Gasllwchwr ger Abertawe yw’r plentyn cyntaf yng Nghymru i dderbyn llaw fecanyddol newydd gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Collodd Alan Jones ei ddwylo o ganlyniad i haint pan oedd e’n dair oed.

Fe fu’n rhaid i’w deulu godi £30,000 dros gyfnod o wyth mis er mwyn iddo gael y llawdriniaeth arloesol.

Fe gafodd bron i 40 o lawdriniaethau yn ystod blynyddoedd cynta’i fywyd oherwydd nam ar ei galon ac fe arweiniodd cymhlethdodau at golli ei ddwylo.

Cafodd y dechnoleg a gafodd ei defnyddio i greu’r llaw newydd ei datblygu yn yr Alban gan Touch Bionics, a bellach, mae Alan yn gallu ysgrifennu, beicio a defnyddio cyllell a fforc.

Pe bai’r llaw yn llwyddo yn y tymor hir, fe allai gael ail lawdriniaeth erbyn iddo gyrraedd 12 oed.