Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dyn o Gaernarfon wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio ei wraig, wrth iddi fynd â’i phlant i’r ysgol.
Ar ôl dwy awr a hanner o ystyried, cafodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug Sylvan Parry, 46, yn euog o geisio llofruddio Fiona Parry, sy’n 40 oed.
Roedd wedi pledio’n euog i achosi niwed corfforol difrifol ond plediodd yn ddieuog o geisio ei llofruddio.
Clywodd y llys fod Sylvan Parry wedi sathru ar ben Fiona Parry sawl gwaith.
Cafwyd hyd iddi ar lôn yng Nghefn Cadnant, rhwng Ffordd Llanberis a Maesincla, gydag anafiadau difrifol i’w phen.
Roedd nifer o blant a oedd yn cerdded i’r ysgolion gerllaw, sef Ysgol Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, wedi gweld yr ymosodiad a ddigwyddodd am tua 9yb, ddydd Iau 3 Medi.
Cafodd yr achos ei symud o Gaernarfon i’r Wyddgrug gan fod yr achos yn cael ei drafod yn helaeth yn lleol.
Mae disgwyl i Sylvan Parry gael ei ddedfrydu yfory.