Mae Heddlu Gwent wedi rhybuddio bod oedi hir ar yr M4 i gyfeiriad y gorllewin yn agos i Bont Hafren, yn dilyn dau wrthdrawiad.
Roedd car a fan yn gysylltiedig â’r ddamwain gyntaf, sydd wedi rhwystro dwy lôn ar y draffordd, ac mae ambiwlans ar ei ffordd i’r safle.
Fe ddigwyddodd yr ail ddamwain yn agosach at safle’r tollau, gyda thri cherbyd wedi gwrthdaro.
Nid oes unrhyw un wedi’u hanafu yn y ddamwain honno, fodd bynnag, er bod un lôn yn fanno wedi’i rhwystro.
Dywedodd yr heddlu nad oedd ganddyn nhw ragor o wybodaeth ar hyn o bryd, gan rybuddio teithwyr, fodd bynnag, i ddisgwyl oedi.