Mae tair ardal yng Nghymru ymysg y deg uchaf ym Mhrydain sydd â’r canran o gartrefi sydd â gormod o ddyledion.
Dangosodd astudiaeth gan Money Advice Service (MAS) hefyd mai Gogledd Iwerddon oedd yr unig ran o Brydain oedd â chanran uwch o gartrefi mewn dyled na Chymru.
Mae 8.2m o bobol, neu un o bob chwe oedolyn ym Mhrydain, â dyledion sydd yn achosi problemau iddynt, yn ôl y corff, gydag oedolion ifanc, teuluoedd mawr a rhieni sengl yn wynebu’r risg fwyaf.
Ond roedd bron i un o bob pedwar mewn dyledion trafferthus mewn ardaloedd fel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, yr ail a’r drydedd ardal uchaf ar y rhestr.
‘Mae’r cymorth yno’
Yn ôl yr astudiaeth roedd pobol yn cael eu hystyried mewn trafferth â’u dyledion os oedden nhw un ai wedi bod ar ei hôl hi wrth dalu biliau yn ystod tri o’r chwe mis diwethaf, neu eu bod yn teimlo fod eu dyledion yn rhoi baich trwm arnynt.
Roedd pobol oedd â phlant dros 50% yn fwy tebygol o fod mewn dyledion trafferthus, tra bod rhywun oedd yn rhentu yn hytrach na pherchen eu cartref ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn dyled.
Doedd yr un ardal yng Nghymru yn y deg isaf ym Mhrydain oedd a dyledion oedd yn achosi problemau.
“Rydyn ni’n gwybod fod cyngor dyledion yn gweithio, ond ar hyn o bryd dim ond un o bob pum person mewn trafferth sydd yn chwilio am gyngor,” meddai Caroline Siarkiewicz, pennaeth cyngor dyledion MAS, gan annog mwy o bobol i leisio’u pryderon.
Y 10 ardal ble mae cartrefi’n fwyaf tebygol o fod â dyledion trafferthus:
1. Sandwell, Gorllewin Canolbarth Lloegr, 24.7%
2. Blaenau Gwent, Cymru, 24.3%
3. Merthyr Tudful, Cymru, 24.1%
=4. Newham, Llundain, 23.8%
=4. Derry a Strabane, Gogledd Iwerddon, 23.8%
6. Barking a Dagenham, Llundain, 23.0%
=7. Belfast, Gogledd Iwerddon, 22.9%
=7. Tower Hamlets, Llundain, 22.9%
=9. Kingston upon Hull, Swydd Efrog, 21.9%
=9. Rhondda Cynon Taf, Cymru, 21.9%
Y canrannau yn y gwahanol wledydd a rhanbarthau ar draws Prydain:
Gogledd Iwerddon, 21.0%
Cymru, 19.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr, 18.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr, 17.7%
Llundain, 17.4%
Swydd Efrog, 17.1%
Gogledd Orllewin Lloegr, 16.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr, 16.2%
De Orllewin Lloegr, 14.5%
Dwyrain Lloegr, 14.4%
De Ddwyrain Lloegr, 14.0%
Yr Alban, 13.2%