Fe fydd mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i famau sydd yn dioddef o salwch amenedigol, o gwmpas y cyfnod mae babi’n cael ei eni, yn dilyn cynllun newydd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ddydd Iau y byddai’n rhoi buddsoddiad newydd o £1.5m i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

Bydd hynny’n cynnwys cyflogi 30 o staff arbenigol newydd, ar draws pob un o fyrddau iechyd Cymru, er mwyn rhoi cymorth i famau, eu babanod a’u teuluoedd.

Mae disgwyl i’r meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd eraill hefyd weithio’n agos â gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â’r gwasanaethau mamolaeth.

‘Darparu profiad cadarnhaol’

“Rydyn ni’n gwybod bod rhwng un o bob 10 ac un o bob 15 o famau’n dioddef iselder ar ôl rhoi genedigaeth, a bod tua un o bob 500 o famau’n gallu dioddef salwch meddwl difrifol y mae modd ei drin,” meddai Mark Drakeford wrth wneud y cyhoeddiad.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi llesiant meddyliol cyn, yn ystod ac ar ôl y beichiogrwydd.

“Mae hefyd angen i ni gefnogi menywod sydd mewn risg uchel o ddatblygu problemau iechyd meddwl i aros mor agos at eu cartrefi ag sy’n ymarferol bosibl gan sicrhau bod y fam a’r baban yn ddiogel.

“Rydyn ni am i famau a’u teuluoedd gael profiad cadarnhaol er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus, yn abl a’u bod yn cael eu cefnogi’n dda yn ystod beichiogrwydd a’r wythnosau a’r misoedd cyntaf o fagu’u baban newydd.”