Mae dyn oedrannus wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beiciwr a lori yn Wrecsam ddoe.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i Stad Ddiwydiannol Wrecsam tua 3yp ddydd Mawrth, 8 Mawrth, yn dilyn adroddiadau bod beiciwr a lori wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Cafodd y beiciwr 76 oed ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ac yna ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio ar 101 gan nodi’r cyfeirnod U033578.