Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi mynegi pryder ynghylch ffigurau sy’n dangos bod cynnydd o 50% rhwng 2005 a 2012 yn nifer y plant yng ngwledydd Prydain oedd wedi cael presgripsiwn ar gyfer tabledi gwrth-iselder.

Lleihaodd y nifer am gyfnod yn dilyn pryderon fod cymryd y tabledi’n gallu arwain at y posibilrwydd o gyflawni hunanladdiad.

Ond mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd unwaith eto, nid yn unig yng ngwledydd Prydain ond trwy’r Gorllewin yn gyffredinol.

Cynnydd o 30% yng Nghymru

Mae ffigurau’r BBC yn nodi y bu cynnydd o 30% yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “disgwyl i feddygon teulu farnu’n glinigol wrth benderfynu pa driniaeth i’w chynnig i’w cleifion, yn seiliedig ar eu hanghenion unigol a’u hanes feddygol”.

Ychwanegodd fod meddygon yn rhoi sylw i ganllawiau NICE, a bod gwasanaethau sydd wedi’u sefydlu yng Nghymru’n sicrhau bod gan gleifion fynediad i ystod eang o driniaethau, gan gynnwys therapi seicolegol ac adnoddau hunan-gymorth.

‘Angen cyfuno â therapi seicolegol’

Dywedodd Dr Shekhar Saxena o Sefydliad Iechyd y Byd fod y ffigurau’n destun pryder am ddau reswm, sef fod rhesymau annigonol weithiau dros roi presgripsiwn, ac yn ail y niwed y gall y tabledi ei achosi.

Cafodd y ffigurau diweddaraf eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘European Journal of Neuropsychopharmacology’.

Yn y cyfnod dan sylw, roedd cynnydd o 54% yn nifer y bobol ifanc oedd wedi cael presgripsiwn ar gyfer tabledi gwrth-iselder yng ngwledydd Prydain.

60% yw’r ffigwr yn Nenmarc, 49% yn yr Almaen, 26% yn yr Unol Daleithiau a 17% yn yr Iseldiroedd.

Mae canllawiau’r corff NICE yn nodi na ddylai plant gymryd tabledi ar gyfer iselder llai difrifol, ond hyd yn oed wrth drin achosion mwy difrifol, dywed NICE y dylid eu cyfuno â therapi seicolegol ar yr un pryd.