Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts yn cyflwyno Mesur Preifat yn San Steffan ddydd Mercher gyda’r bwriad o leihau’r achosion o gam-drin ar y we.

Mae’r Mesur Preifat gan Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd a llefarydd ei phlaid ar Faterion Cartref a Chyfiawnder yn ymateb i’r cynnydd enfawr mewn troseddau ar-lein, ac yn ymgais i ddiweddaru deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â monitro a chynnwys digidol ymosodol.

Cafodd y Mesur ei lunio gan Harry Fletcher a Digital Trust, ac mae wedi ennill cefnogaeth drawsbleidiol gan aelodau seneddol Plaid Cymru, yr SNP, y Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cynnydd

 

Mae tystiolaeth newydd yn dangos bod saith miliwn o achosion o dwyll a thair miliwn o droseddau eraill yn cael eu cyflawni bob blwyddyn, ac maen nhw’n amrywio o droseddau hiliol, gwrth-semitiaeth, rhywiol a homoffobig.

Yn sgil datblygiadau technolegol, mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ei chael yn fwy anodd fyth erbyn hyn i ymdopi.

Mesur

Bydd cynnwys y Mesur yn rhoi’r cyfrifoldeb ar wefannau cymdeithasol i gydymffurfio â rhai mesurau er enghraifft gwahardd cynnwys bygythiol ac ymosodol a rhoi gwybod i’r heddlu os oes tystiolaeth o gam-weithredu.

Byddai cynnwys sy’n wahaniaethol, bygythiol ac achosi poendod hefyd yn droseddau.

Byddai’r rhai sy’n cael eu canfod yn euog o’r troseddau sy’n cael eu cynnwys yn y mesur yn wynebu dedfryd posib o garchar o chwe mis i flwyddyn.

‘Canlyniadau trychinebus’

Mewn datganiad, dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae’r cynnydd sylweddol ym mhoblogrwydd y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfle y mae hyn yn ei alluogi i unigolion gymryd mantais o bobl fregus yn brysur wneud y cyfryngau cymdeithasol yn fodd i hyrwyddo camdriniaeth, a all arwain, mewn rhai achosion, at ganlyniadau trychinebus.

“Gyda thua hanner y troseddau sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu yn cynnwys rhyw elfen seibr, mae angen dybryd i ddiweddaru deddfau ar fonitro ar-lein a chynnwys ymosodol – mae’r Mesur hwn yn gobeithio cyflawni hyn.

“Mae’r Mesur hefyd yn cyfnerthu tros 30 o ddeddfau cyfredol gan gynnwys y ddeddf Camddefnydd Cyfrifiaduron 1990 a gynlluniwyd i atal hacio a chylchrediad firws gan ddod ag eglurder gwell i’r heddlu.

“Mae’n amlwg oddi wrth y gefnogaeth drawsbleidiol i’r Mesur yma fod aelodau o bob plaid yn teimlo y dylai deddfwriaeth mewn perthynas â throseddau seibr fod yn berthnasol ac nad ydy’r defnydd presennol o’r ddeddf yn galluogi’r heddlu a’r erlynwyr wneud eu gwaith.”

Profiadau ASau 

Ychwanegodd: “Mae’r ymateb yma yn deillio o’n profiadau ni fel Aelodau Seneddol. Mae Aelodau wedi derbyn bygythiadau treisgar ar-lein. Cawn bobl yn dod i’n cymorthfeydd i gwyno am gam-drin a bwlio a darllenwn am bobl yn llygad y cyhoedd sydd wedi derbyn cam-driniaeth annerbyniol ar Trydar a Facebook.

“Yn fy etholaeth i, cefais fam yn dod i chwilio am gefnogaeth yn dilyn achos ble targedwyd un o’i phlant mewn ystafell sgwrsio ar-lein. Roedd yn ymwybodol fod hyn yn bosib ond meddyliai y byddai ei merch yn siarad â phlant eraill. Ei mab a sylweddolodd nad oedd y person a siaradai â’i chwaer yn hollol gredadwy.”

‘Argyfwng’

Ychwanegodd Harry Fletcher: “Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn troseddau seibr yn y blynyddoedd diwethaf. Gall troseddwyr a cham-drinwyr wneud defnydd rheolaidd o dechnoleg ac mae’n angenrheidiol i’r system gyfiawnder ddal i fyny.

“Nid yw’r mwyafrif o ddioddefwyr yn adrodd achosion o droseddau seibr unai oherwydd nad ydynt yn ymwybodol ei fod yn drosedd, neu oherwydd nad ydynt yn credu na wnaiff yr heddlu ymateb neu oherwydd ei fod yn rhywbeth  mae rhaid iddynt ddioddef.

“Mae’r system gyfiawnder yn wynebu argyfwng, mae angen yr adnoddau i ddelio â throseddau digidol, mae dioddefwyr angen cefnogaeth. Mae’r deddfau presennol yn annigonol ac mae’n rhaid sicrhau eu bod yn wir-berthnasol heb oedi.”