Aled Roberts
Mae’r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Aled Roberts wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll fel ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Ne Clwyd yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai.

Cafodd ei ethol i’r Cynulliad ar y rhestr ranbarthol yn 2011.

Wrth gyhoeddi ei ymgeisyddiaeth, dywedodd y byddai’n canolbwyntio ar “dri mater o bwys”, sef gwrthwynebu’r codiad cyflog arfaethedig o 10% i Aelodau’r Cynulliad, gwella’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a gwella’r system addysg.

Mewn datganiad, dywedodd: “Rwy’n hynod falch bod Democratiaid Rhyddfrydol lleol wedi fy nghefnogi  i sefyll yn Ne Clwyd ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.”

Wrth gyfeirio at y codiad cyflog arfaethedig, dywedodd Aled Roberts: “Credaf fod hyn nid yn unig yn anghywir, ond hefyd yn anfoesol ar adeg pan fo cymaint o doriadau yn cael eu gwneud i wasanaethau hanfodol yn ein cymunedau.

“Os caf fy ethol byddaf yn rhoi’r codiad cyflog a gaf ar ôl talu treth i elusennau lleol.  Ni  allwn wynebu fy etholwyr os na fuaswn yn gwneud hyn.”

Iechyd

Wrth gyfeirio at ei weledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ychwanegodd: “Yn rhy aml, mae’r GIG yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol – mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant, ond yn methu â mynd i’r afael â phroblemau rheoli.

“Ar y llaw arall mae’r Ceidwadwyr yn gwneud addewidion afrealistig i gynyddu’r cyllid yn groes hollol i’r toriadau y maent yn ei wneud yn San Steffan.

“Yna mae Plaid Cymru yn addo  recriwtio mwy o feddygon pan na allwn lenwi’r swyddi presennol tra bod eu cynllun i greu Bwrdd Ysbytai Cymru gyfan yn creu unwaith eto’r math o gynnwrf strwythurol sydd wedi bod mor niweidiol yn y gorffennol – heb sôn am ei fod yn ôl pob tebyg yn golygu ysbytai Gogledd Cymru yn cael ei reoli o Dde Cymru!”

Fe dynnodd sylw at yr angen i leihau amserau aros a’r argyfwng sy’n wynebu’r gwasanaeth ambiwlans.

“Mae rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud ond mae angen cyflymu’r broses fel bod amseroedd aros yn dechrau gostwng a bod cleifion newydd ddim yn cael eu gorfodi i aros mewn ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam am nad oes unrhyw wely ar eu cyfer.”

Addysg

Wrth gyfeirio at addysg yng Nghymru, ychwanegodd: “Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i gael Llywodraeth Cymru i gytuno ar gynnydd sylweddol mewn cyllido plant sy’n cael prydau ysgol am ddim.

“Hefyd o ganlyniad i bwysau gan y Democratiaid Rhyddfrydol mae pobl ifanc 16-18 oed yn derbyn disgownt o draean ar eu holl deithiau ar y bws.

“Yn yr etholiad hwn, un o’n blaenoriaethau fydd capio maint dosbarthiadau ar 25. Plant yw ein dyfodol ac nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn dadlau â’r farn y dylai athrawon gael yr amser i addysgu pob plentyn yn iawn.”