Bydd cyfres o gyngherddau yn rhai o bentrefi Gwynedd yr wythnos nesaf yn dathlu llwybr hanesyddol y pererinion i Ynys Enlli.

Canolfan Gerdd William Mathias yn y Galeri, Caernarfon, sy’n cyflwyno ‘Taith Gerddorol y Pererin’, a bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanesyddol gwahanol ardaloedd ar y daith.

Fe fydd y cyngherddau’n cynnwys cyflwyniadau cerddorol gan diwtoriaid Canolfan Gerdd William Mathias, a barddoniaeth gan ddisgyblion lleol ar thema’r Pererin.

Twm Morys, y Prifardd a chyn-Fardd Plant Cymru fydd yn gweithio gyda disgyblion o bedair ysgol gynradd ar Lwybr y Pererinion, sef Llanberis, Talysarn, Brynaerau ac Aberdaron, i lunio’r farddoniaeth.

Fe fydd y delynores Elinor Bennett, sy’n un o gyfarwyddwyr y Ganolfan, yn perfformio mewn dau o’r cyngherddau.

“Dw i wrth fy modd i gymryd rhan yn y gyfres hon o gyngherddau,” meddai.  “Bydd y gerddoriaeth yn amrywiol ac yn apelio at drwch y boblogaeth.  Edrychaf ymlaen yn arbennig at weithio gyda Twm Morys ac i roi cyfle i blant o ysgolion lleol gael gwrando ar fathau gwahanol o gerddoriaeth ac i greu barddoniaeth newydd a’u hysbrydoli gan un o feirdd fwyaf blaenllaw Cymru.”

Manylion y daith

Bydd y cyngherddau’n cael eu cynnal mewn adeiladau hynafol gan gynnwys rhai a allai fod yn fannau gorffwys i’r Pererinion ar eu taith i Enlli:

Eglwys Sant Padarn, Llanberis, dydd Iau 10 Mawrth am 1pm

Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, dydd Gwener 11 Mawrth am 1pm

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn, dydd Sadwrn 12 Mawrth am 1pm

Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron, dydd Sul 13 Mawrth 3pm

Mae tocynnau ar gael wrth y drws neu trwy gysylltu â Chanolfan Gerdd William Mathias.