SuperTed (Llun:BBC)
Mae’r dyn wnaeth greu cartŵn SuperTed wedi beirniadu “biwrocratiaid” Llywodraeth Cymru am y ffordd y mae’r diwydiant ffilm yn cael ei redeg yng Nghymru.
Fe fethodd y Cymro Mike Young, sydd bellach yn byw yng Nghaliffornia, â chael cefnogaeth ariannol i wneud ei ffilm nesaf.
Am hynny, mae wedi gorfod dewis peidio â ffilmio’r cynhyrchiad sy’n olrhain bywyd un o gyn-ymosodwyr Clwb pêl-droed Caerdydd, Robin Friday, yng Nghymru.
Y chwaraewr chwedlonol sydd ar glawr un o senglau anfarwol y Super Furry Animals, ‘The Man Don’t Give A F***’.
Dywedodd Mike Young, a fu’n gyfrifol am ddod â SuperTed yn fyw ar S4C yn 1982, ei fod wedi’i “syfrdanu” dros y ffordd roedd y gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau yn cael ei rheoli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy ddweud ei bod yn “gwneud y defnydd mwyaf” o arian cyhoeddus, ac felly ei bod yn “anochel” y bydd rhai cynhyrchwyr yn cael ei siomi.
Gorfod ffilmio y tu allan i Gymru
Dywedodd Mike Young wrth BBC Cymru ei fod ef a’i dîm “wedi rhoi llawer o arian” tuag at y ffilm a bod “enwogion mawr ynddi”.
“Es i drwy broses gyda Llywodraeth Cymru ac yn syml, fe wnaethon nhw ei gwrthod, felly mae’n edrych yn debyg y bydd yn rhaid i ni ffilmio yn Lloegr neu Iwerddon yn yr haf,” meddai.
Cronfa yn gweithio, medd y llywodraeth
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r diwydiannau creadigol yn un o’i “sectorau allweddol” a bod gan Gymru “enw da rhyngwladol” dros gynyrchiadau ffilm a theledu.
Dywedodd fod hyn yn “dystiolaeth” fod y gronfa fuddsoddi yn y cyfryngau, yn gweithio.
“Mae’r Gronfa Fuddsoddi yn y cyfryngau yn cynnwys arbenigwyr annibynnol y diwydiant sy’n rhoi cyngor i ni dros fuddsoddiadau masnachol,” ychwanegodd llefarydd.
“Byddai’n iawn i’n beirniadu am beidio â chymryd mesurau cryf i ddiogelu a rhoi gwerth ar ein buddsoddiadau.
“Mae’n anochel felly y bydd hyn yn siomi rhai cynhyrchwyr, ond byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i ddod o hyd i ffyrdd o’u helpu i ffilmio eu cynyrchiadau yng Nghymru.”