Safle newydd Aston Martin yn Sain Tathan
Gallai cwmni arall sy’n cynhyrchu ceir moethus symud eu gwaith cynhyrchu i Gymru.

Bythefnos yn unig ers i Aston Martin gyhoeddi y byddan nhw’n cynhyrchu eu car newydd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, mae adroddiadau bod cwmni TVR hefyd yn ystyried symud i dde Cymru.

Y gred yw y bydd y penderfyniad ynglŷn â’r safle yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae cwmni TVR, a gafodd ei arbed yn ddiweddar gan grŵp o fuddsoddwyr, yn ôl pob golwg yn bwriadu defnyddio techneg cynhyrchu a grëwyd gan gyn-ddylunydd Fformiwla Un.

Dywedodd llefarydd ar ran TVR eu bod nhw ar hyn o bryd yn “ystyried dau neu dri opsiwn posibl” ar gyfer safle eu ffatri, ond does dim cadarnhad bod un o’r safleoedd hynny yng Nghymru.