Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, fod y cynllun cenedlaethol yn nodi’r hyn mae’r Llywodraeth yn disgwyl i asiantaethau ei wneud i atal cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ac amddiffyn plant.

Meddai Heddlu Dyfed Powys fod gwarchod plant eisoes yn flaenoriaeth iddyn nhw ond y byddai strategaeth newydd yn fodd i gryfhau ymdrechion ymhellach.

Mae’r cynllun wedi’i lunio mewn partneriaeth â chomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru, y Comisiynydd Plant, heddluoedd, y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr – Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, byrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y trydydd sector a llywodraeth leol.

Y cynllun

 

Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Fynd i’r Afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cymru yn gosod y safonau gofynnol y bydd y byrddau diogelu plant ac asiantaethau yn gweithio tuag atynt er mwyn:

  • Atal cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a phobl ifanc, a’u hamddiffyn
  • Darparu cymorth ymatebol, priodol a chyson i’r rhai sydd yn, neu sydd mewn perygl, o ddioddef cam-fanteisio rhywiol .
  • Canfod pobl sy’n camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u herlyn.

‘Blaenoriaeth’

 

Dywedodd yr Athro Mark Drakeford: “Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn enghraifft o gam-drin plant ac yn drosedd. Mae mynd i’r afael â’r math hwn o gam-drin yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon, ac mae angen i bawb sy’n ymwneud â diogelu gydweithio.

“Mae’r cynllun cenedlaethol newydd hwn yn nodi’r hyn rydyn ni’n disgwyl i asiantaethau ei wneud i atal camfanteisio’n rhywiol ar blant ac amddiffyn plant, ac i ganfod pobl sy’n camfanteisio’n rhywiol ar blant, a’u herlyn.

“Nid yw’r ffaith bod cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yn golygu bod y gwaith yn dod i stop. Y dechrau yn unig yw hyn. Rydyn ni’n parhau i gydweithio i amddiffyn ein plant a’n pobl ifanc.”

‘Ychwanegiad i’w groesawu’

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ian Charles o Heddlu Dyfed-Powys : “Mae’r cynllun yn ychwanegiad i’w groesawu at y strategaethau a threfniadau presennol sydd gennym eisoes yn eu lle yma yn Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae mynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn mynd i’r afael a’r troseddau hyn.

“Rydym yn cydnabod yr effeithiau newid bywyd mae chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn ei gael ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac yn cydnabod bod dull gweithredu ar y cyd yn gwbl hanfodol i sicrhau gwell canlyniadau.”

‘Amgylchedd diogel’

 

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Mae’n bwysig iawn bod dioddefwyr sy’n agored i niwed yn cael yr hyder i ddod ymlaen i siarad â Heddlu De Cymru ac mae llawer o waith arloesol ac arwyddocaol iawn yn mynd ymlaen i fynd i’r afael â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’r bregus yn ein cymdeithas.

“Drwy gydweithio rwy’n hyderus y bydd y cynllun cenedlaethol hwn – ar y cyd â dulliau diogelu effeithiol sydd eisoes ar waith – yn ein galluogi i sicrhau bod plant sydd mewn perygl sy’n byw yng Nghymru yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd diogel.”