Gareth Vincent Hall
Mae dyn o Wynedd wedi cael ei ddedfrydu i 50 mlynedd o garchar yn yr Unol Daleithiau am dreisio merch 10 oed o’r wlad, ynghyd â throseddau rhyw eraill.
Mewn gwrandawiad ar ddechrau mis Chwefror, yn Eugene, Oregon, plediodd Gareth Vincent Hall, 22, o Dalysarn, yn euog i bedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o sodomiaeth ac un achos o feithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein.
Roedd y cyhuddiad o herwgipio yn ei erbyn wedi cael ei ollwng.
Yn ei achos llys yn America, defnyddiodd Gareth Hall gyfieithydd, i bledio’n euog yn y Gymraeg, i bob un o’r saith cyhuddiad yn ei erbyn.
Gwahardd o’i waith
Cafodd y cyn-achubwr bywydau, a oedd yn arfer gweithio yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon, ei arestio mewn maes awyr yn Chicago ym mis Mai 2015.
Ym mis Hydref 2014, cafodd ei wahardd o’i waith gan Gyngor Gwynedd, yn dilyn ymchwiliad troseddol arall gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud yn y gorffennol nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion gan rieni plant a allai fod wedi cael gwersi nofio gan Gareth Hall yn y pwll yng Nghaernarfon.
“Ym mis Hydref 2014, hysbyswyd Cyngor Gwynedd gan Heddlu Gogledd Cymru o ymchwiliad troseddol mewn perthynas ag aelod o staff Gwasanaeth Hamdden y Cyngor,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
“Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor, cafodd yr aelod staff ei atal o’i waith bryd hynny tra roedd ymchwiliadau’r heddlu yn parhau. Cafodd cytundeb yr aelod staff gyda’r Cyngor ei derfynu ym mis Mai 2015.
“Mae gan y Cyngor drefniadau manwl i gofnodi cwynion yn erbyn aelodau o staff. Gallwn gadarnhau nad ydym wedi derbyn unrhyw gwynion ynglŷn â’r unigolyn yma.”
Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio
Mae Heddlu’r Gogledd yn dal i gynnal ymchwiliad ar ôl i Hall gael ei arestio yng Nghymru ar ddechrau 2015 ar amheuaeth o droseddau rhyw ar-lein.